Cyrn Simnai
Golwg agos ar gorn simnai nodweddiadol o’r cyfnod ‘hwyr’ gyda’r potiau gwreiddiol
Yn ôl un amcangyfrif mae o leiaf pedwar o bob pump corn simnai wedi ei dynnu ymaith dros y degawdau diwethaf ond y newyddion da yw fod tannau agored yn dod yn boblogaidd unwaith eto, hyd yn oed os mai dim ond ar achlysuron arbennig y cânt eu defnyddio. Gall fliw agored, yn enwedig pan fo tân yn llosgi, leihau’r gwlybaniaeth sy’n crynhoi y tu mewn i’n tai yn ystod misoedd y gaeaf gan ei fod yn gwella cylchrediad yr aer. Yn ystod misoedd yr haf mae’r ffliw agored hefyd yn helpu i gadw’n tai yn oer gan fod aer cynnes yn cael ei dynnu i fyny’r ffliw ac mae awyr iach yn dod i’r ystafell trwy ffenestri a thyllau aer agored. Felly os oes gennych dân agored a chorn simnai, mae’n ddoeth eu cadw.
Corn simnai o’r cyfnod ‘cynnar’ wedi ei adeiladu o garreg.
Lle mae corn simnai wedi ei leihau o ran maint (yn aml wedi’i gapio â slabiau concrid) yna dylid ei ailadeiladu i’w uchder gwreiddiol. Lle nad oes tystiolaeth o batrwm y corn gwreiddiol yn bodoli dylid cadw’r arddull yn syml, ond gyda chyrsiau corbelog bargodol ar y pen. Gellir penderfynu ar uchder a maint y corn simnai trwy edrych ar y nifer o ffliwiau y mae’n ei wasanaethu ac wrth edrych ar gyrn simnai tebyg ar doeon cyfagos.
Mae’n debyg y bydd unrhyw gorn simnai sydd wedi goroesi angen ei ailbwyntio. Rhoddir canllawiau ar bwyntio bric a charreg yn yr adran ar wynebau waliau.
Wrth drwsio neu ailadeiladu cyrn simnai bric dylid defnyddio briciau clai o’r un lliw bob amser. Gall briciau fod yn rhai newydd neu yn rhai wedi eu hadfer ond dylent os yn bosibl fod mewn maint imperial ac nid metrig. Mewn rhai achosion lle mae patrwm gwybyddus yn cael ei drwsio efallai y bydd angen deunyddiau wedi’u gwneud i bwrpas etc. Gellir cael y rhain gan gwmnïau bric arbenigol.
Mae cyrn simnai yn ychwanegu at y rhythm cryf sydd yn gwneud terasau’r Cymoedd mor arbennig.
Os yn bosibl dylid osgoi briciau concrid ac ni ddylid rendro cyrn simnai. Dylid gosod sêl blwm ar simneiau yn y dull traddodiadol ac yn unol â manylion Cymdeithas Platiau Plwm. Peidiwch â thorri rhigol ar yr oleddf a gosod hyd sengl o sêl blwm.
Corn simnai carreg neu fric?
Yn amlach na pheidio roedd cyrn simnai tai cynharaf y Cymoedd wedi’u hadeiladu o garreg ond yn ddiweddarach cyflwynwyd corneli bric gan fod hynny’n haws o ran eu hadeiladu. Yn y diwedd roedd pob corn simnai’n cael ei adeiladu o fric, yn aml o wahanol liwiau.
Pan fydd corn simnai yn cael ei drwsio mae’n bwysig cadw at y ffurf a’r deunyddiau gwreiddiol. Os yw eich corn simnai y tu hwnt i’w drwsio neu wedi ei dynnu eisoes (ond bod brest mewnol y simnai yn dal yno) yna gellir ystyried ailadeiladu corn simnai.
Maint, graddfa a photiau
Amrywiol fathau o botiau simnai. Yr un ar y dde yw’r mwyaf cyffredin.
Y peth pwysicaf i’w gofio wrth ailadeiladu corn simnai yw y dylai fod o’r maint a’r graddfa cywir ar gyfer y tŷ. Mae ailadeiladu corn simnai llai, yn waeth yn weledol na bod heb gorn simnai. Mae’n bwysig felly eich bod yn darganfod sut fath o gorn simnai oedd ar y tŷ yn wreiddiol. Oedd y corn wedi ei adeiladu o garreg, cymysgedd o garreg a bric neu o fric yn unig? Beth oedd ei faint ac a oedd patrymau addurniadol neu fanylion arbennig arno? Pa fath o bot simnai oedd arno?
Gellir cael atebion i’r cwestiynau hyn weithiau trwy edrych yn ofalus ar gyrn a photiau simnai sydd wedi goroesi ar yr un stryd neu ar dai eraill o’r un oed mewn strydoedd cyfagos. Pe bai cyrn simnai yn cael eu hailosod ar bedwar o bob pump tŷ byddai cymeriad ein strydoedd yn gwella a gallai y tu mewn i’n tai elwa hefyd!