Deg cyngor da wrth chwilio am adeiladwr!
Mae cael gafael ar adeiladwr da i wneud y gwaith sydd yn rhy fawr, cymhleth neu beryglus i ni ei wneud ein hunain bron bob amser yn broblem. Fel gyda phob maes arbenigedd arall ceir pobl dda, drwg neu aneffeithiol. Dyma ddeg cyngor i’ch helpu i gael gafael ar adeiladwr da.
- Gofynnwch i’r adeiladwr am enwau a chyfeiriadau eu cwsmeriaid blaenorol yn eich ardal. Siaradwch â nhw ac ewch i weld y gwaith.
- Gofynnwch am ddyfynbrisiau gan ddau neu dri gwahanol adeiladwr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r sefyllfa gyda TAW.
- Byddwch yn sicr ynglŷn â pha waith yr ydych eisiau i’r adeiladwr ei wneud cyn iddo alw heibio. Os yw’r adeiladwr yn dweud wrthych fod angen gwneud mwy o waith nag yr oeddech wedi ei feddwl yn wreiddiol, gofynnwch iddo esbonio pam.
- Gofynnwch am fanyleb a dyfynbris ysgrifenedig a chytunwch ar unrhyw daliadau fesul cam neu daliad terfynol cyn i’r gwaith ddechrau.
- Chwiliwch am aelod o gymdeithas masnach safonol fel Ffederasiwn Meistri Adeiladwyr a gofynnwch am warant yswiriant.
- Ceisiwch osgoi ychwanegu at y gwaith neu newid eich meddwl hanner ffordd trwy’r gwaith; mae hyn yn arwain at oedi a chostau ychwanegol.
- Peidiwch â thalu am waith o flaen llaw. Peidiwch â thalu ag arian parod
- Os oes problemau’n codi, siaradwch gyda’r adeiladwr ar unwaith. Os aiff pethau’n ddifrifol cysylltwch â safonau masnach neu’r gymdeithas masnach.
- Dangoswch y daflen hon i’r adeiladwr, cyfeiriwch ef at y wefan a dywedwch wrtho yr hoffech iddo ddilyn y cyngor
- Os yw eich gwaith yn gymhleth gwnewch yn siŵr eich bod yn comisiynu pensaer proffesiynol neu syrfëwr i roi set cynhwysfawr o gynlluniau a manyleb adeiladu i chi. Dylid ceisio cymorth proffesiynol hefyd am gyngor ar ddiffygion strwythurol.