Cartref yn y Cymoedd

Sut i ofalu am eich tŷ teras yn y Cymoedd

Drysau Ffrynt

Drws ffrynt nodweddiadol o’r cyfnod ‘hwyr’ (panelog) mewn tŷ carreg.

Drws ffrynt nodweddiadol o’r cyfnod ‘hwyr’ (panelog) mewn tŷ carreg.

Yn ogystal â ffenestri eich tŷ , mae eich drws ffrynt yn rhan hanfodol o gymeriad eich tŷ. Roedd y drysau ffrynt ar y math cynnar o dŷ yn rai wedi’u gwneud o bren plaen ond roedd drysau ffrynt y tai diweddarach wedi’u gwneud o baneli pren ac roeddent yn fwy addurnedig.

Bron yn ddieithriad arferid peintio’r drysau ffrynt pren gyda lliw ar wahân i wyn gan ychwanegu at natur fywiog y strydoedd sydd yn gwneud cartrefi ein Cymoedd mor arbennig.

Yn aml, mae’r drysau ffrynt wedi’u gosod ychydig i mewn o ffrynt y tai i greu ardal gysgodi fechan. Lle mae’n bosibl mae’n bwysig cadw’r nodwedd hon gan ei bod yn gymorth i gysgodi’r drws rhag yr haul a’r glaw ac mae hefyd yn rhoi cysgod i’r perchennog pan fo’n agor y drws ar dywydd garw .

English