Cartref yn y Cymoedd

Sut i ofalu am eich tŷ teras yn y Cymoedd

Mae tai'r Cymoedd yn arbennig

Photgraph of the Valleys

Mae pawb yn gwybod beth yw tŷ nodweddiadol yn Nghymoedd y De, ond beth sydd yn ei wneud mor unigryw? Mae delweddau o derasau o dai cerrig gyda ffenestri a drysau lliwgar, to llechi a simneiau uchel sydd yn creu rhythm i lawr y stryd yn adnabyddus ledled y byd. Adeiladwyd y tai teras hyn dros gyfnod cymharol fyr, yn aml heb eu cynllunio, er mwyn diwallu’r angen mawr am dai a grëwyd gan ddiwydiant y dydd. Maent wedi creu a chefnogi cymuned gref o bobl dros nifer o genedlaethau. Oherwydd bod cymaint ohonynt gellid hawlio mai tŷ teras y Cymoedd sydd yn gwneud y cyfraniad mwyaf i gymeriad ein Cymoedd.

Dim amddiffyniad

Tra bod nifer o’n hadeiladau cyhoeddus fel capeli, neuaddau tref, adeiladau diwydiannol, neuaddau gweithwyr a hyd yn oed y ffurfiau cynharaf o dai teras wedi’u hamddiffyn, ychydig iawn sy’n cael ei wneud i amddiffyn tai teras y Cymoedd er gwaethaf y ffaith bod eu cymeriad arbennig yn helpu i wneud Cymoedd De Cymru mor unigryw. Os yw eich tŷ yn perthyn i’r cyfnod pan oedd haearn yn frenin, neu os yw’n perthyn i gyfnod y gweithfeydd glo, mae’n rhan o rhywbeth arbennig y dylid ei drysori.

Gellir atal y dirywiad

Mae dylanwad pensaernïaeth o du hwnt i’r ardal a’r defnydd amhriodol o ddeunyddiau modern wedi cael effaith niweidiol ar nifer o’n terasau; ond gydag ychydig o ofal ac ystyriaeth fe ellir atal y dirywiad presennol a gwella’r sefyllfa.

Beth yw gwerth gwneud hynny?

Yn ôl astudiaeth diweddar gan Arad Consulting, ‘mae’r galw am dai mwy traddodiadol yn cynyddu. Mae nodweddion gwreiddiol yn gymorth i werthu unrhyw gartref. Yn draddodiadol mae tai sydd wedi eu hadnewyddu yn sicr yn fwy deniadol ac mae’r prynwr sydd yn chwilio am gartref lle mae’r nodweddion gwreiddiol wedi eu cadw neu eu hadnewyddu yn disgwyl talu tua £5000 neu £10,000 yn ychwanegol.’ Cadarnhaodd astudiaeth ddiweddar o fanteision economaidd cadw ac adnewyddu tai teras yng Nghymoedd De Cymru hefyd y gellir cadw costau adeiladu o fewn y pris ychwanegol hwn pe bai deunyddiau yn cael eu defnyddio mewn modd creadigol ac os nad oes angen sgiliau adeiladu arbenigol.

Cymorth a chyngor

Diben y wefan hon, yw cynorthwyo perchnogion tai ac eraill sydd yn ymwneud â newid ein tai, i werthfawrogi yr hyn sydd yn arbennig yn nhai’r Cymoedd a beth yw’r ffordd orau i’w gwella. Trwy weithio gyda’n gilydd fel hyn gellir cryfhau cymeriad unigryw terasau Cymoedd De Cymru a pharhau i wneud datganiadau balch am ein treftadaeth.

Dylid nodi nad yw’r cyngor a roddir yn gyflawn ac na ddylid mabwysiadu’r manylion a’r enghreifftiau hyn ar gyfer unrhyw fath neilltuol o dŷ oni bai eu bod yn addas ar eu cyfer.

English