Cartref yn y Cymoedd ar Daith
Mae Cartref yn y Cymoedd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru, yn falch o gyhoeddi arddangosfa sy'n mynd ar daith.
Mae'r arddangosfa ddwyieithog ac aml-gyfryngol hon yn darparu gwybodaeth am adfer ac atgyweirio tai teras yn y Cymoedd, ac mae'n cynnwys ffilm ddogfen fer gyda Roy Noble yn adroddwr.
Bydd yr arddangosfa i'w gweld mewn nifer o leoliadau cyhoeddus yng Nghymoedd De Cymru.
Mae'r amserlen hyd yn hyn fel a ganlyn:
2011
10 Ionawr-22 Chwefror: Amgueddfa Pontypwl
22 Chwefror-16 Mawrth: Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon
28 Mawrth-18 Ebrill: Amgueddfa Abertyleri a'r Cylch
18 Ebrill–23 Mai: Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
23 Mai–24 Mehefin: Swyddfeydd Dinesig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
24 Mehefin–18 Gorffennaf: Neuadd y Dref, Maesteg