Toeau
Pan adeiladwyd terasau ein Cymoedd yn wreiddiol byddai’r toeau wedi bod yn eithaf gwahanol i’r hyn a welwn heddiw. Roedd y rhan fwyaf o’r toeau wedi’u toi â llechi Gogledd Cymru gan roi golwg unffurf i’r stryd a byddai gan pob tŷ gorn simnai; roedd hyn yn ychwanegu rhythm cryf oedd yn gwneud terasau’r Cymoedd yn arbennig.
Llechi Naturiol
Caiff llechen Gymreig ei hystyried yn gyffredinol ymysg y gorau, a’r un sy’n para hiraf, yn y byd. Ond nid yw’r hoelion haearn a ddefnyddid i osod y llechen yn para cystal ac felly tua can mlynedd neu ragor ar ôl eu hadeiladu roedd rhaid adnewyddu’r rhan fwyaf o’r toeau. Yn aml iawn defnyddid llechen artiffisial neu deilsen concrid yn lle llechi ac nid oedd y rhain o gystal safon.
Mae ‘het’ dda yn bwysig i unrhyw dŷ a dylid meddwl yn ofalus am ail doi eich tŷ gyda llechi naturiol (neu gyda llechi wedi’u hadfer) yn hytrach na gyda’r llechi artiffisial neu’r teils concrid a ddefnyddir yn fwy cyffredinol.
Wyddech chi?
Gall teils concrid modern bwyso hyd at ddwywaith pwysau y llechi tenau gwreiddiol oedd ar dai'r Cymoedd. Mae angen Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu felly i newid o do llechi i do teils concrid.
Roedd y rhan fwyaf o’r tai ‘diweddaraf’ yn y Cymoedd wedi’u toi â llechi naturiol 24” wrth 12”, gyda theils crib dulas onglog (yn hytrach na hanner crwn). Mae’n bwysig iawn defnyddio’r estyll, is-haen anadlog ac wrth gwrs hoelion cywir, er mwyn osgoi problemau’r toeau gwreiddiol.
Mae llechi naturiol wedi’u mewnforio sydd yn cydweddu gyda lliw llwyd neu lwydlas y llechen wreiddiol Gymreig yn ateb cost effeithiol ond mae’n bwysig cael y llechi o chwarel sydd ag enw da er mwyn osgoi problemau gyda pha mor hir y bydd y llechi yn gallu gwrthsefyll effeithiau’r tywydd.
Ni ddylid defnyddio llechi o wahanol leoedd ar unrhyw un goleddf oherwydd, gydag amser, gall hyn greu effaith clytwaith. Lle mae’n bosibl dylid osgoi fentiau to sydd yn codi uwchben y llechi a dylid awyru gofod y to trwy ddefnyddio adeiladwaith sydd yn gallu anadlu.
Mae teils concrid sydd yn rhyng-gloi yn creu golwg llawer mwy ‘garw’ i’r to na llechu naturiol a gall fod yn rhy drwm i strwythur to sydd wedi’i ddylunio ar gyfer llechi ysgafnach, naturiol.
Yn yr un modd, mae llechi sment ffibr neu unrhyw lechi eraill synthetig yn tueddu i greu golwg unffurf ‘llyfn’ ac nid ydynt yn creu’r un cymeriad â llechi naturiol.
Ffenestr to o ddull cadwraeth
Ffenestri yn y to a ffenestri dormer
Nid oedd ffenestri yn y to a ffenestri dormer yn nodwedd gyffredin ar doeau tai’r Cymoedd yn wreiddiol. Lle mae gofod llofft wedi ei newid a lle mae ffenestri to neu ffenestri dormer yn angenrheidiol, dylid eu gosod ar gefnluniau yn unig gan eu bod yn amharu ar oleddf toeau ar ochr y stryd.
Dylid ystyried defnyddio fersiynau modern gwydr dwbl o ffenestri to haearn bwrw cynnar (yn ôl canran a maint cywir, gyda bar gwydr fertigol) i gadw cymeriad y to cymaint â phosibl.