Cartref yn y Cymoedd

Sut i ofalu am eich tŷ teras yn y Cymoedd

Ffenstri Codi

Ffenestri codi ‘diweddarach’ mewn ty yn y Cymoedd

Ffenestri codi ‘diweddarach’ mewn ty yn y Cymoedd.

Y ffenestri yw ‘llygaid’ eich tŷ. Yn yr un modd ag y mae llygaid person yn gallu dweud llawer wrthych am eu personoliaeth, mae ffenestri yn ganolbwynt cymeriad tŷ. Daeth y ffenestri codi, ynghyd â’r pwysau a’r pwlïau, yn boblogaidd am y tro cyntaf yn ystod blynyddoedd hwyr yr 1700au a dyma a ddefnyddiwyd bron yn ddieithriad tan ddechrau’r 20fed ganrif. Os yw’ch tŷ yn ‘gynnar’ neu yn ‘hwyr’ mae’n debygol mai ffenestri codi oedd y ffenestri gwreiddiol.

Manteision

Roedd sawl mantais wrth gwrs i ffenestri codi; roeddent yn addas ar gyfer ein hinsawdd gwlyb gan y gellid eu cau bron yn gyfan gwbl gan roi cyfle i awyru’r tŷ ond gan gadw’r glaw allan. Hefyd, mewn tŷ teras, nid yw’r ffenestr agored yn ymwthio allan ar y stryd fel ag y gwna ffenestr adeiniog. Gellir dianc hefyd yn hawdd o’r llawr cyntaf pe bai tân; yn aml dim ond y darn uchaf cul y ffenestri adeiniog sydd yn agor.

Golwg agos ar fath o ffenestr ‘cynnar’ wedi’i hadnewyddu.

Golwg agos ar fath o ffenestr ‘cynnar’ wedi’i hadnewyddu.

Mae nifer o gwmnïau lleol sydd yn arbenigo mewn trwsio ffenestri gwreiddiol a llunio ffenestri codi newydd gan fanteisio ar ddatblygiadau modern mewn technoleg ffenestri i wella effeithlonrwydd ynni, diogelwch a chyfforddusrwydd.

Gwella gwerth tŷ, a’r gallu i’w werthu

Mae’n ddiddorol gweld mewn astudiaeth ddiweddar ar effeithiau cynnal ein tai mewn dull cadwriaethol bod cadw neu ailgyflwyno nodweddion gwreiddiol fel y math cywir o ffenestri yn gallu gwella gwerth tŷ a’i wneud yn haws i’w werthu.

Os ydych yn ddigon ffodus felly i fyw mewn tŷ teras yn y Cymoedd sydd â’r ffenestri codi pren gwreiddiol, meddyliwch yn ofalus cyn eu newid.

Yn yr un modd, os ydych yn meddwl am newid eich ffenestri modern, gallech ystyried fuddsoddi mewn ffenestri codi pren, a fydd yn rhoi holl fanteision ffenestri modern i chi gyda’r fantais o ychwanegu cymeriad a gwerth i’ch eiddo.

Cyngor ar Ffenestri

Wrth adnewyddu eich ffenestri cadwch at y ffurf agor gwreiddiol a defnyddiwch batrwm traddodiadol.

Gosodwch y ffenestri newydd yn y safle gwreiddiol fel bod yr un dyfnder o gil ar y tu allan.

Wyddech chi?

Y term Saesneg am ffenestr godi yw ‘sash window’ ac mae’n debyg fod y gair ‘sash’ yn deillio o’r gair Ffrangeg ‘chassis’ sydd yn golygu ‘ffrâm.

Peidiwch â newid maint na siâp agoriad y ffenestr wreiddiol. Bydd hyn yn dinistrio cymeriad eich tŷ a bydd hefyd yn amharu ar rhythm y teras cyfan.

Defnyddiwch bren o ansawdd da sydd wedi ei drin, fel Ffynidwydden Douglas gyda graen clos a siliau derw. Mae Ffynidwydden Douglas yn debyg o ran ansawdd i’r coed a ddefnyddiwyd yn y ffenestri gwreiddiol ac os cânt eu trin yn gywir byddant yn para am ddegawdau.

Peidiwch â defnyddio’r mathau o ffenestri sydd yn estron i dai’r Cymoedd fel ffenestri ‘bwa’, bariau ffug ar y gwydr, cwareli llygad tarw neu ffenestri plwm. Peidiwch ag ychwanegu ffenestri bae newydd.

Defnyddiwch liw ar eich ffenestri pren. Mae lliw yn ychwanegu cymeriad i’ch tŷ a chymeriad i’r stryd hefyd. Yn draddodiadol arferid peintio’r darnau symudol o ffenestr godi yn wyn, gyda lliw arall ar y ffrâm blwch. Bydd math o baent micro fandyllog yn gymorth o ran cynnal a chadw’r ffenestr.

Peidiwch â rhoi staen ar eich ffenestri pren hyd yn oed os mai coed caled ydynt. Gall staenio ffenestr fod yn haws i’w wneud ac efallai bod llai o waith cynnal a chadw arno nag ar baent ond mae’n gallu gwneud i dy edrych yn ddi-liw.

Lle bynnag mae hynny’n bosibl cadwch eich silff carreg gwreiddiol. Os yw eich silff carreg wedi’i ddifetha y tu hwnt i’w drwsio ceisiwch gael silff carreg wedi’i adfer neu silff goncrid o’r un mesur.

English