Croeso i wefan Fy Nghartref yn y Cymoedd.
Nod y wefan yw rhoi gwybodaeth i chi am sut i ofalu am, a gwella eich cartref yng Nghymoedd De Cymru. Bydd hefyd yn eich helpu i ddarganfod rhagor am hanes a phensaernïaeth eich tŷ, stryd neu dref yn y Cymoedd. Hyd yn oed os nad ydych yn byw yn y Cymoedd, bydd llawer o’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi.
Efallai nad yw eich tŷ yn y Cymoedd wedi ei restru nac mewn ardal gadwraeth ond mae iddo le pwysig yn eich cymuned ac mae’n cyfrannu tuag at hunaniaeth unigryw Cymoedd y De.
Yn anffodus mae nifer o adeiladau traddodiadol y Cymoedd wedi dioddef blynyddoedd o waith trwsio ac addasiadau o ansawdd isel ac amhriodol trwy ddefnyddio deunyddiau modern. Mae’r gwaith hwn wedi gwanhau cymeriad unigryw trefi ein Cymoedd ac yn aml iawn byddant yn creu problemau cynnal a chadw a strwythurol hir dymor.
Crëwyd y wefan hon gan Brosiect Treftadaeth Adeiladau’r Cymoedd sydd â’r nod o ddathlu a chynorthwyo i gadw treftadaeth ein Cymoedd.
Dan arweiniad Cronfa Dreftadaeth y Loteri mae gan y bartneriaeth aelodau sydd yn cynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, Cyngor Dinas Caerdydd, CITB – Sgiliau Adeiladu, Ymddiriedolaeth Dinesig Cymru, Comisiwn Dylunio Cymru, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a Sefydliad Brenhinol Tirfesurwyr Siartredig (Cymru).
Dywed ein partneriaid
"Mae helpu cymunedau i ddysgu am, a chymryd rhan yn eu treftadaeth leol yn agos iawn at galon y Gronfa Dreftadaeth y Loteri fel y prif gyllidwr treftadaeth yn Nghymru. Mae pobl yn frwdfrydig am dreftadaeth, fel ag y maent yn frwdfrydig am eu cartrefi; felly bydd darparu gwybodaeth ar sut i adfer tai mewn dull cydymdeimladol trwy’r seminar hon a’r wefan gysylltiedig yn gymorth i gynnal y brwdfrydedd hwn. Ac yn y modd hwn bydd y ddelwedd amlwg o dai teras yn y Cymoedd yn cael ei gadw gobeithio am genedlaethau i ddod." Jennifer Stewart, Rheolwraig, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru
"Nid i gestyll, eglwysi a thai mawr yn unig y mae cadwraeth yn berthnasol. Gellir yr un mor hawdd ei gysylltu â phob hen adeilad. Mae’r ychwanegiadau Fictorianaidd i Gastell Caerdydd wedi’u hadeiladu yn yr un modd ag yr adeiladwyd nifer o dai teras ac felly mae’n beth synhwyrol i ddefnyddio’r un deunyddiau a thechnegau. Yn bersonol, nid yw cadwraeth yn rhywbeth elitaidd; mae’n ddull o ofalu am hen adeiladau, gan ddefnyddio’r holl wybodaeth sydd ar gael amdanynt." John Edwards, Cydlynydd Prosiect Castell Caerdydd, Cyngor Dinas Caerdydd
"Fel corff sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob pwnc sydd yn ymwneud ag adeiladau mae’n bleser gennym fod yn rhan o Bartneriaeth Treftadaeth Adeiladau’r Cymoedd wrth iddo hyrwyddo manteision economaidd ac ariannol ymagwedd gadwriaethol tuag at adfer adeiladau traddodiadol. Os yw’r fenter hon yn llwyddiant, bydd yn cyflawni’r pethau hyn yn ogystal â hyrwyddo arbenigrwydd lleol gan greu synnwyr o berchnogaeth cymunedol a helpu i adfywio gwead hanfodol cymunedau ein Cymoedd – a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth go iawn." Cathy McLean, Cyfarwyddwraig, RICS Cymru
"Bu’n bleser i’r Ymddiriedolaeth fod yn rhan o’r fenter hon. Os oes modd i ni ofalu am dai nodweddiadol cymunedau ein Cymoedd byddwn, ar yr un pryd yn helpu i gadw synnwyr o le a chymuned. Mae hanes cyfoethog a radical i drefi’r Cymoedd; mae’r cof torfol hwn a hunaniaeth yn bwysig ac mae angen ei warchod mewn cyfnod o newid ac yn wyneb dyfodol ansicr. Rydym yn rhy aml yn esgeuluso’r cyfarwydd a’r cyffredin; ond ni ellir adfer yr hyn sy’n cael ei golli – yn y strydoedd nac yn ein calonnau." Dr Matthew Griffiths, Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru