Cartref yn y Cymoedd

Sut i ofalu am eich tŷ teras yn y Cymoedd
Drws ffrynt o’r cyfnod ‘cynnar’ wedi’i adnewyddu (estyllog)

Drws ffrynt o’r cyfnod ‘cynnar’ wedi’i adnewyddu (estyllog)

Gwaith Paent

Mesur da ar gyfer tai hen yn gyffredinol yw bod gwaith rendro, gwaith coed a gwaith haearn wedi’u paentio bob amser, ond ychydig iawn o waith bric a cherrig allanol oedd wedi’u paentio.

Wyddech chi?

Os ydych yn peintio gwaith carreg neu waith bric mae hyn yn ei rwystro rhag ‘anadlu’ ac mae’r paent felly yn aml yn syrthio’i ffwrdd.

Mae lliwiau cryf, tywyll, cyfoethog yn well na lliwiau golau ar gyfer gwaith coed ar hen adeiladau ac eithrio darnau symudol ffenestr ffrâm y dylid eu paentio yn wyn neu yn lledwyn. Gall fod lliwiau disglair a deniadol yn briodol gan ychwanegu at gymeriad stryd ond dylid osgoi lliwiau llachar a gwrthgyferbyniol.

Mae du neu wyrdd tywyll yn liw priodol i waith haearn allanol.

Nid yw’n bosibl darparu cyngor penodol ar liwiau ac eithrio bod angen eu dethol yn ofalus a bydd amrediad cyfyngedig ar un tŷ fel rheol yn creu gwell dyluniad.

English