Wynebau Waliau
Rendr neu ‘stucco’ gwreiddiol ar deras y Cymoedd.
Roedd y math cynnar o dai wedi’u hadeiladu yn gyfan gwbl o garreg gyda bwâu carreg dros y drysau a’r ffenestri. Roedd y tai hwyr hefyd wedi’u hadeiladu o garreg ond er mwyn hwyluso’r adeiladu ac oherwydd bod y deunydd ar gael, defnyddiwyd briciau i ffurfio agoriadau drysau a ffenestri. Cafodd rhai mathau o dai hwyr eu rendro yn wreiddiol gydag ymylon rendr addurniadol i’r drysau a’r ffenestri.
Yn gyffredinol nid oes angen newid wyneb gwreiddiol eich tŷ a gall fod yn niweidiol nid yn unig i gymeriad y stryd ond i’r ffordd y mae’n perfformio. Er enghraifft, mae gosod rendr sment gro chwipio ar dŷ gyda wyneb carreg yn dinistrio rhythm y stryd a gall arwain at broblemau tamprwydd trwy ddal gwlybaniaeth y tu ôl i’r rendr.
Lle nad oes pwyntiad morter ar dai carreg neu fric neu os yw wedi gwisgo, gall hyn greu tamprwydd ond yn aml yr unig beth sydd ei angen i oresgyn y broblem yw ailbwyntio yn gywir gyda morter traddodiadol.
Ailbwyntio
Ail bwyntio carreg a bric.
Dim ond pan fo’r morter yn feddal iawn neu yn rhydd neu lle mae morter wedi gwisgo gan achosi i ddŵr dreiddio i uniadau agored neu ddwfn y mae angen ailbwyntio gwaith carreg a bric. Lle mae angen ailbwyntio dylid tynnu’r hen bwyntio yn ofalus i ddyfnder o rhwng 25mm a 40mm, neu o leiaf at ddwywaith uchder yr uniad. Ni ddylid tynnu morter gyda disg mecanyddol na thrwy ddulliau eraill sydd yn debygol o greu difrod i ymylon neu i gynyddu lled yr uniadau.
Dylai’r cymysgedd pwyntio fod yn gydnaws â math a chryfder y cerrig neu’r briciau ac yn addas i ba raddau y maent yn dioddef tywydd. Bydd cymysgedd yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau ond mae canran o tua 1 : 3 asiant clymu (fel calch hydrolig cymedrol) i agregiad (tywod wedi’i olchi a’i raddio’n dda) yn ganllaw bras. Bydd cyrn simnai angen cymysgedd cymharol gryfach.
Dylid pacio’r morter yn dynn i’r uniad gan ddefnyddio haearn pwyntio ar ôl tynnu’r holl ddeunydd rhydd a gwlychu’r uniad fel nad yw’r morter yn sychu yn rhy gyflym.
Dylid cael uniad taclus ar yr wyneb neu uniad ychydig yn ddwfn wrth bwyntio hen waith carreg a gwaith bric ac ni ddylai’r morter gael ei ledaenu y tu hwnt i’r uniad ar wyneb y cerrig neu’r briciau. Dylid osgoi ffurfiau pwyntio modern fel ‘strap’ neu ‘rhuban’ wedi’i godi uwchben yr wyneb, ‘dolen bwced’ neu ‘taro tywydd’, a wneir trwy ddefnyddio morter caled o sment cryf oherwydd gall hynny ddifetha’r strwythur a’r deunydd.
Bydd dilyn y dulliau traddodiadol cywir wrth ail bwyntio ein terasau cerrig yn golygu nad oes angen chwipio waliau â gro neu roi gorchudd carreg ffug arnynt na chwaith eu selio gyda deunyddiau dal dŵr.
Bric a cherrig
Mae lliw yn ychwanegu personoliaeth i’ch tŷ a chymeriad i’r stryd.
Dim ond pan fo briciau a cherrig wedi colli eu hintegriti strwythurol y dylid eu newid. Gall hyn ddigwydd oherwydd erydu dwfn neu doriad neu asglodi difrifol neu lle nad yw nwyddau hindreulio yn gwneud y gwaith o daflu dŵr oddi wrth yr wyneb islaw. Os mai arwynebol yn unig yw’r toriad neu’r asglodi dylid ei dderbyn gan dynnu deunydd rhydd sydd yn dal dŵr yn ofalus.
Dylai’r briciau newydd gydweddu â’r rhai sydd eisoes yno o ran dimensiwn, cryfder a gwytnwch, gwead y gorffeniad a’r lliw. Dylid eu gosod yn yr un rhwymiad a lled yr uniad. Efallai bod briciau ail law ar gael sydd yn cydweddu ac a fydd yn creu golwg wedi gwisgo eisoes.
Lle mae’n bosibl dylai’r cerrig god yn garreg Pennant lleol i gydweddu gyda’r garreg wreiddiol o ran maint a lliw. Nid yw carreg fwrw neu garreg wedi’i hail greu yn cael eu hargymell wrth ddisodli’r garreg wreiddiol.
Os yw’r garreg neu’r bric wedi baeddu, argymhellir eu golchi gyda dŵr, nail ai gyda llaw neu gyda chwistrellwyr. Gellir defnyddio asid hydro-fflworig wedi’i wanhau a’i ddilyn wedyn gyda phroses niwtraleiddio systematig i lanhau gwaith bric sydd wedi’i faeddu yn ddrwg. Ni ddylid defnyddio glanhawyr alcalin a chemegol eraill gan eu bod yn cynnwys halen toddadwy sydd yn tueddu i erydu wyneb y wal. Nid yw sgwrio â thywod diwydiannol yn addas. Dim ond contractwr medrus arbenigol ddylai lanhau gwaith bric a gwaith carreg.
Rendr llyfn a garw
Dim ond tai a rendrwyd yn wreiddiol a ddylid eu hail rendro. Diben rendr llyfn a garw yw creu haen amddiffynnol allanol i adeilad a bob hyn a hyn mae angen ei drwsio neu ei adnewyddu. Er mwyn gweithio’n iawn ni ddylai’r rendr fod yn gryfach na’r deunydd y mae’n cael ei osod arno. Mae cymysgedd gwan yn caniatáu i’r rendr symud a chaniatáu i wlybaniaeth anweddu’n rhydd o’r wal. Ni ddylid defnyddio cymysgedd sment caled gan y bydd eu diffyg hyblygrwydd yn gwneud iddynt gracio a gadael i ddŵr dreiddio a chael ei ddal yn y wal. Yn y pen draw bydd hyn yn difetha’r rendr.
Os credir bod y rendr yn wreiddiol argymhellir ei ddadansoddi er mwyn copïo’r cymysgedd. Awgrymir hefyd y dylid edrych ar ddarn sydd wedi’i gysgodi i weld beth oedd ei liw a’i wead gwreiddiol.
Dylid osgoi rendr fflat, caled ac ni ddylid defnyddio chwipio â gro, sment a thywod na gorffeniadau Tyroleaidd, gan eu bod bob amser yn edrych yn fodern.
Dylid dilyn y manylion sydd yn bodoli ar agoriadau a chorneli. Dylid osgoi manylion nad ydynt yn draddodiadol fel dripiau clychau, onglau a stopiau metel.
Gellir gadael y rendr heb ei orchuddio neu gellir ei addurno â gorffeniad calch priodol neu orffeniad arall sydd yn anadlu. Ni ddylid defnyddio system baent anhydraidd gan y gallai hynny ddal dŵr.
Pwyntiau i’w hystyried
Os oes gennych ddysgl lloeren ystyriwch ei gosod ar gefn eich tŷ er mwyn osgoi creu ‘llanastr’ ar y ffrynt.
Wrth osod ceblau ar ffrynt eich tŷ cuddiwch nhw trwy eu gosod wrth y peipiau dŵr glaw a’r landeri. Peidiwch byth â rhedeg ceblau yn groes gar draws wal.