Cartref yn y Cymoedd

Sut i ofalu am eich tŷ teras yn y Cymoedd

Ydych chi'n ‘Gynnar’ neu yn ‘Hwyr’?

Tŷ o’r cyfnod ‘hwyr’ gyda ffrynt sengl wedi’i adeiladu o garreg gydag ymylon bric i’r drysau a’r ffenestri.

Adeiladwyd y mwyafrif o dai teras yng Nghymoedd De Cymru oherwydd y diwydiant haearn a glo yn yr ardal a’r angen i gartrefu miloedd o bobl a ddaeth i’r ardal i weithio yn y gweithfeydd haearn a’r glofeydd.

Yn wreiddiol datblygodd trefi haearn fel Merthyr neu Aberdâr fel clystyrau o gwmpas nifer o weithfeydd haearn ac wrth i’r clystyrau dyfu caewyd y bylchau rhyngddynt i ffurfio trefi. Yn gyffredinol mae’r mathau ‘cynnar’ hyn o dai yn dyddio o’r blynyddoedd cyn 1860 ac fe’u hadeiladwyd ar hap ac heb unrhyw gynllunio o flaen llaw.

Golwg agos ar ffenestr godi gwreiddiol 'cynnar'.

Adeiladwyd y tai ‘diweddarach’ yn ystod yr 1870au a hyd at droad yr ugeinfed ganrif fel terasau o dai. Mae’r terasau fel rheol yn dilyn ffurf y tir ond yn achlysurol fe’u hadeiladwyd ar draws ffurf y tir gan greu terasau o dai ar oledd. Roedd y terasau diweddaraf yn destun is-ddeddfau cynllunio newydd oedd yn pennu isafswm safonau ar gyfer lled strydoedd, draeniad a chyflenwad dŵr.

Yr is-ddeddfau hyn oedd yn bennaf gyfrifol am y cynlluniau grid rhwyll sydd yn eu gwahaniaethu oddi wrth y trefi haearn cynharaf. Ydych chi’n byw mewn tŷ ‘cynnar’ neu ‘hwyr’? Gallwch ddarganfod hynny trwy ddarllen hanes eich ardal yn eich llyfrgell leol.

English